Annwyl Huw,

Llais cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a sefydliadau datganoledig

Diolch am eich llythyr dyddiedig 17 Ionawr 2017. Roedd aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awyddus i ymateb i'ch galwad am wybodaeth ynglŷn â gweithio rhyng-sefydliadol. Mae fy sylwadau ar gyfer y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ymwneud yn uniongyrchol â Ffrwd II: Cysylltiadau rhyng-sefydliadol ar faterion polisi.

Mae'r Pwyllgor yn awyddus i sefydlu cysylltiadau gwaith da â phwyllgorau cyfatebol yn Senedd y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig ar faterion o ddiddordeb a phryder cyffredin. Yn benodol, rydym yn credu ei bod yn bwysig iawn sefydlu cyswllt â gwaith ar iechyd, tlodi a cham-drin plant mewn rhannau eraill o'r DU drwy archwilio eu hymyriadau hwy. Mae llawer iawn o gyfle i'r Pwyllgor ddatblygu cysylltiadau â phwyllgorau cyfatebol yn Holyrood, Stormont a San Steffan. Rwyf wedi trafod hyn â staff y Pwyllgor ac rwy'n awyddus iddynt archwilio i feysydd y gellid ymchwilio iddynt ar y cyd â gweinyddiaethau eraill.

Er mwyn rhoi syniad o'r cefndir ichi, aeth Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Pedwerydd Cynulliad ati'n benodol i gynnal gwaith y tu allan i Gymru. Un cam nodedig a gymerodd y Pwyllgor oedd cyfarfod â Quality and Qualifications Ireland a'r Scottish Qualifications Authority cyn cyflwyno'r Bil Cymwysterau (Cymru). Gwnaeth

hyn gyfraniad allweddol at lunio dull y Pwyllgor o gynnal y gwaith craffu, ac yn y pendraw at lywio ffurf y corff cymwysterau newydd.

Mae'n werth nodi hefyd bod y Pwyllgor wedi ymweld â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn ei bencadlys ym Mharis. Cyfarfu'r Pwyllgor â'r rhai sy'n gyfrifol am y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA), ac adolygiad OECD o system addysg Cymru. Gwnaeth yr ymweliadau hyn gyfraniad hollbwysig at lunio ein dull o graffu gan ddylanwadu, yn eu tro, ar bolisïau Llywodraeth Cymru.

Gan fynd yn ôl at yr Ail a'r Trydydd Cynulliad, cynhaliodd y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes rywfaint o waith canfod ffeithiau ym maes polisi gyda'r gweinyddiaethau datganoledig. Ystyriwyd bod y gwaith hwn yn hanfodol o ran llywio ymchwiliadau a gwaith cynllunio.

Bydd llawer o'r materion polisi y bydd y Pwyllgor yn eu hystyried yn debyg iawn i faterion mewn rhannau eraill o'r DU, Ewrop a thu hwnt. Fel y cyfryw, rwy'n credu'n gryf y byddai gwaith ein Pwyllgor yn elwa ar ddatblygu gwell cysylltiadau rhyng-sefydliadol. Byddem yn croesawu unrhyw gyngor neu gefnogaeth gan eich Pwyllgor i'n cynorthwyo i gyflawni hyn.

Yn gywir,

Lynne Neagle AC Cadeirydd